Newyddion

Digwyddiadau:

Ionawr 2026
26
Dydd Llun
19:00
Cyngor Cymuned Llanbedrog
Cyfarfod y Cyngor
Cyfarfod cyhoeddus
Neuadd y Pentref, Llanbedrog
Chwefror 2026
23
Dydd Llun
19:00
Cyngor Cymuned Llanbedrog
Cyfarfod y Cyngor
Cyfarfod cyhoeddus
Neuadd y Pentref, Llanbedrog
Mawrth 2026
30
Dydd Llun
19:00
Cyngor Cymuned Llanbedrog
Cyfarfod y Cyngor
Cyfarfod cyhoeddus
Neuadd y Pentref, Llanbedrog

 
 

CYNGOR CYMUNED LLANBEDROG 

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, Adran  116

Hysbysiad o Gyfethol

RHODDIR HYSBYSIAD TRWY HYN fod Cyngor Cymuned LLANBEDROG yn bwriadu Cyfethol 1 aelod i lenwi’r lle gwag sydd ar gael ar gyfer Cynghorydd yng Nghymuned (Ward) LLANBEDROG.

Ceisir datganiadau o ddiddordeb gan aelodau o’r cyhoedd sy’n cyflawni’r meini prawf canlynol ac sydd â diddordeb mewn cynrychioli eu cymuned ar y Cyngor Cymuned dywededig. Rhaid bod yn ddinesydd Prydain, y Gymanwlad, Iwerddon neu’r Undeb Ewropeaidd ac yn 18 oed neu’n hŷn, ac yn cyflawni o leiaf un o’r meini prawf canlynol:

  • wedi’ch cofrestru fel etholwr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal a enwir uchod; neu
  • yn ystod y cyfan o’r 12 mis diwethaf, wedi bod yn berchennog neu’n denant tir neu safle arall yn y gymuned a enwir uchod; neu
  • wedi bod â’ch prif neu’ch unig weithle yn ystod y 12 mis diwethaf yn y gymuned a enwir uchod; neu
  • rydych wedi byw yn y Gymuned, neu o fewn 4.8 cilometr ohoni yn ystod y cyfan o’r 12 mis diwethaf.[1]

Os ydych yn dymuno cael eich ystyried i gael eich cyfethol ar gyfer y sedd gwag, neu’n dymuno cael rhagor o wybodaeth ynghylch rôl Cynghorwyr Cymuned, cysylltwch â’r Swyddog Priodol, Clerc y Cyngor Cymuned ar/yn: cyngorcymunedllanbedrog@gmail.com erbyn hanner dydd ar 8 Rhagfyr 2025.

Dyddiedig y 3ydd diwrnod hwn o Dachwedd 2025

[1] Mae rhai pobl penodol wedi’u hanghymhwyso rhag ymgeisio, yn eu plith swyddogion cyflogedig y Cyngor, unrhyw un sy’n destun gorchmynion cyfyngu methdalwyr a’r rheiny sy’n destun dedfrydau o garchar yn ddiweddar.

Cynllun Prynu Cartref Gwynedd

Ydych chi’n cael trafferth i fforddio prynu tŷ addas ar y farchnad agored yng Ngwynedd?

Gallwn helpu trwy fenthyg y gwahaniaeth rhwng pris tŷ a’r hyn gallwch ei gael fel morgais a blaendal.

Mwy o fanylion