Croeso i wefan Cyngor Cymuned Llanbedrog.

 

Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yn ne-orllewin Llyn, yw Llanbedrog. Mae'n gorwedd ar lan Bae Ceredigion tua hanner ffordd rhwng Pwllheli i'r dwyrain ac Abersoch i'r de. Rhed y ffordd A499 trwy'r pentref.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Dafydd Elis-Thomas a'r Aelod Seneddol yw Liz Saville Thomas.

Mae penrhyn Mynydd Tir y Cwmwd (343 troedfedd) yn ei gysgodi i'r de. O'r copa ceir golygfeydd braf dros Fae Ceredigion ac Ynysoedd Tudwal ac i fryniau Eryri yn y gogledd-ddwyrain.

Mae eglwys y plwyf yn bur hynafol. Fe'i cysegrir i Sant Pedrog. Eglwys un siambr hir ydyw, sy'n dyddio yn rhannol i'r 13g. Ychwanegwyd clochdy yn y 19g pan gafodd ei hatgyweirio'n sylweddol a'i thrawsnewid gan golli llawer o'i chymeriad hynafol. Mae'r bedyddfaen yn dyddio i'r 15g.

Mae traeth Llanbedrog yn ddeniadol ac yn boblogaidd gan ymwelwyr. I'r gogledd ceir craig isel Carreg y Defaid.